Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 16:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. O ARGLWYDD, fy nerth a'm cadernid,fy noddfa mewn dydd o flinder,atat ti y daw'r cenhedloedd, o gyrion pellaf byd, a dweud,“Diau i'n hynafiaid etifeddu celwydd,oferedd, a phethau di-les.

20. A wna rhywun dduw iddo'i hun?Nid yw'r rhain yn dduwiau.”

21. “Am hynny, wele, paraf iddynt wybod;y waith hon mi ddangosaf iddynt fy nerth a'm grym.A deallant mai'r ARGLWYDD yw fy enw.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 16