Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 16:14-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. “Am hynny, y mae'r dyddiau ar ddod,” medd yr ARGLWYDD, “pryd na ddywedir mwyach, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel i fyny o wlad yr Aifft’,

15. ond, ‘Byw fyddo'r ARGLWYDD a ddygodd dylwyth Israel o dir y gogledd, o'r holl wledydd lle gyrrodd hwy.’ Ac fe'u dychwelaf i'w gwlad, y wlad a roddais i'w hynafiaid.

16. “Yr wyf yn anfon am bysgotwyr lawer,” medd yr ARGLWYDD, “ac fe'u daliant. Wedi hynny anfonaf am helwyr lawer, ac fe'u heliant oddi ar bob mynydd a phob bryn, ac o holltau'r creigiau.

17. Oherwydd y mae fy llygaid ar eu holl ffyrdd hwy; ni chuddiwyd hwy o'm gŵydd, ac nid yw eu drygioni wedi ei gelu o'm golwg.

18. Yn gyntaf, mi dalaf yn ddwbl am eu drygioni a'u pechod, am iddynt halogi fy nhir â chelanedd eu duwiau ffiaidd; llanwodd eu ffieidd-dra fy etifeddiaeth.”

19. O ARGLWYDD, fy nerth a'm cadernid,fy noddfa mewn dydd o flinder,atat ti y daw'r cenhedloedd, o gyrion pellaf byd, a dweud,“Diau i'n hynafiaid etifeddu celwydd,oferedd, a phethau di-les.

20. A wna rhywun dduw iddo'i hun?Nid yw'r rhain yn dduwiau.”

21. “Am hynny, wele, paraf iddynt wybod;y waith hon mi ddangosaf iddynt fy nerth a'm grym.A deallant mai'r ARGLWYDD yw fy enw.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 16