Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 15:6-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Gadewaist fi, medd yr ARGLWYDD,a throi dy gefn arnaf;ac estynnaf finnau fy llaw yn dy erbyn i'th ddifa;rwy'n blino ar drugarhau.

7. Gwyntyllaf hwy â gwyntyll ym mhyrth y wlad;di-blantaf, difethaf fy mhobl,am na ddychwelant o'u ffyrdd.

8. Gwnaf eu gweddwon yn amlach na thywod y môr;dygaf anrheithiwr ganol dydd yn erbyn mam y gŵr ifanc,paraf i ddychryn a braw ddod arni yn ddisymwth.

9. Llesgâ'r un a esgorodd ar saith o feibion;syrth mewn llesmair,machluda ei haul, a hi eto'n ddydd;fe'i dygir i gywilydd a gwaradwydd.Rhoddaf i'r cleddyf y rhai sy'n weddill,yng ngŵydd eu gelynion, medd yr ARGLWYDD.”

10. Gwae fi, fy mam, iti fy nwyn i'r bydyn ŵr ymrafael, yn ŵr cynnen i'r holl wlad.Ni bûm nac echwynnwr na dyledwr,eto y mae pawb yn fy melltithio.

11. Dywedodd yr ARGLWYDD,“Yn ddiau gwaredaf di er daioni;gwnaf i'th elyn ymbil â thiyn amser adfyd ac yn amser gofid.”

12. “A ellir torri haearn, haearn o'r gogledd, neu bres?

13. Gwnaf dy gyfoeth a'th drysorau yn anrhaith,nid am bris ond oherwydd dy holl bechod yn dy holl derfynau.

14. Gwnaf i ti wasanaethu d'elynion mewn gwlad nad adwaenost,canys yn fy nicter cyneuwyd tân, a lysg hyd byth.”

15. Fe wyddost ti, O ARGLWYDD;cofia fi, ymwêl â mi, dial drosof ar f'erlidwyr.Yn dy amynedd, paid â'm dwyn ymaith;gwybydd i mi ddwyn gwarth er dy fwyn di.

16. Cafwyd geiriau gennyt, ac aethant yn ymborth i mi;daeth dy air yn llawenydd i mi, ac yn hyfrydwch fy nghalon;canys galwyd dy enw arnaf, O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 15