Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 15:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Fe wyddost ti, O ARGLWYDD;cofia fi, ymwêl â mi, dial drosof ar f'erlidwyr.Yn dy amynedd, paid â'm dwyn ymaith;gwybydd i mi ddwyn gwarth er dy fwyn di.

16. Cafwyd geiriau gennyt, ac aethant yn ymborth i mi;daeth dy air yn llawenydd i mi, ac yn hyfrydwch fy nghalon;canys galwyd dy enw arnaf, O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd.

17. Nid eisteddais yng nghwmni'r gwamal,ac ni chefais hwyl gyda hwy;ond eisteddwn fy hunan, oherwydd dy afael di arnaf;llenwaist fi â llid.

18. Pam y mae fy mhoen yn ddi-baid,a'm clwy yn ffyrnig, ac yn gwrthod iachâd?A fyddi di i mi fel nant dwyllodrus,neu fel dyfroedd yn pallu?

19. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Os dychweli, fe'th adferaf ac fe sefi o'm blaen;os tynni allan y gwerthfawr oddi wrth y diwerth,byddi fel genau i mi;try'r bobl atat ti, ond ni throi di atynt hwy.

20. Fe'th wnaf i'r bobl hyn yn fagwyr o bres;ymladdant yn dy erbyn ond ni'th orchfygant,canys yr wyf gyda thi i'th achub ac i'th wared,” medd yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 15