Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 15:11-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Dywedodd yr ARGLWYDD,“Yn ddiau gwaredaf di er daioni;gwnaf i'th elyn ymbil â thiyn amser adfyd ac yn amser gofid.”

12. “A ellir torri haearn, haearn o'r gogledd, neu bres?

13. Gwnaf dy gyfoeth a'th drysorau yn anrhaith,nid am bris ond oherwydd dy holl bechod yn dy holl derfynau.

14. Gwnaf i ti wasanaethu d'elynion mewn gwlad nad adwaenost,canys yn fy nicter cyneuwyd tân, a lysg hyd byth.”

15. Fe wyddost ti, O ARGLWYDD;cofia fi, ymwêl â mi, dial drosof ar f'erlidwyr.Yn dy amynedd, paid â'm dwyn ymaith;gwybydd i mi ddwyn gwarth er dy fwyn di.

16. Cafwyd geiriau gennyt, ac aethant yn ymborth i mi;daeth dy air yn llawenydd i mi, ac yn hyfrydwch fy nghalon;canys galwyd dy enw arnaf, O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd.

17. Nid eisteddais yng nghwmni'r gwamal,ac ni chefais hwyl gyda hwy;ond eisteddwn fy hunan, oherwydd dy afael di arnaf;llenwaist fi â llid.

18. Pam y mae fy mhoen yn ddi-baid,a'm clwy yn ffyrnig, ac yn gwrthod iachâd?A fyddi di i mi fel nant dwyllodrus,neu fel dyfroedd yn pallu?

19. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Os dychweli, fe'th adferaf ac fe sefi o'm blaen;os tynni allan y gwerthfawr oddi wrth y diwerth,byddi fel genau i mi;try'r bobl atat ti, ond ni throi di atynt hwy.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 15