1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Pe safai Moses a Samuel o'm blaen, eto ni byddai gennyf serch at y bobl hyn. Bwrw hwy allan o'm golwg, a bydded iddynt fynd ymaith.
2. Ac os dywedant wrthyt, ‘I ble'r awn?’, dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:’ ”“Y sawl sydd i angau, i angau;y sawl sydd i gleddyf, i gleddyf;y sawl sydd i newyn, i newyn;y sawl sydd i gaethiwed, i gaethiwed.”
3. “A chosbaf hwy mewn pedair ffordd, medd yr ARGLWYDD: cleddyf i ladd, y cŵn i larpio, adar y nefoedd a bwystfilod gwyllt i ysu ac i ddifa.
4. Gwnaf hwy yn arswyd i holl deyrnasoedd y byd, oherwydd yr hyn a wnaeth Manasse fab Heseceia, brenin Jwda, yn Jerwsalem.”
5. “Pwy a drugarha wrthyt, O Jerwsalem?Pwy a gydymdeimla â thi?Pwy a ddaw heibio i ymofyn amdanat?