Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 14:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma air yr ARGLWYDD at Jeremeia ynghylch y sychder:

2. “Y mae Jwda'n galaru, a'i phyrth yn llesg;y maent yn cwynfan ar lawr, a chri Jerwsalem yn esgyn fry.

3. Y mae'r pendefigion yn anfon y gweision i gyrchu dŵr;dônt at y ffosydd a'u cael yn sych,dychwelant a'u llestri'n wag;mewn cywilydd a dryswch fe guddiant eu hwynebau.

4. Oherwydd craciodd y pridd am na ddaeth glaw i'r wlad;mewn cywilydd cuddiodd yr amaethwyr eu hwynebau.

5. Y mae'r ewig yn bwrw llwdn yn y maes, ac yn ei adael am nad oes porfa;

6. y mae'r asynnod gwyllt yn sefyll ar y moelydd uchel, ac yn yfed gwynt fel bleiddiaid;pylodd eu llygaid am nad oes gwellt.”

7. “Yn ddiau, er i'n drygioni dystio yn ein herbyn,O ARGLWYDD, gweithreda er mwyn dy enw.Y mae ein gwrthgilio'n aml, pechasom yn dy erbyn.

8. Gobaith Israel, a'i geidwad yn awr ei adfyd,pam y byddi fel dieithryn yn y tir,fel ymdeithydd yn lledu pabell i aros noson?

9. Pam y byddi fel un mewn syndod,fel un cryf yn methu achub?Ond eto yr wyt yn ein mysg ni, ARGLWYDD;dy enw di a roddwyd arnom; paid â'n gadael.”

10. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn:“Mor hoff ganddynt yw crwydro heb atal eu traed;am hynny, ni fyn yr ARGLWYDD mohonynt,fe gofia eu drygioni yn awr, a chosbi eu pechodau.”

11. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Paid â gweddïo dros les y bobl hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 14