Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 12:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Ond yr wyt yn f'adnabod i, ARGLWYDD, yn fy ngweld,ac yn profi fy meddyliau tuag atat.Didola hwy fel defaid i'r lladdfa,a'u corlannu erbyn diwrnod lladd.

4. Pa hyd y galara'r tir, ac y gwywa'r glaswellt ym mhob maes? O achos drygioni y rhai sy'n trigo yno, ysgubwyd ymaith anifail ac aderyn, er i'r bobl ddweud, “Ni wêl ef ein diwedd ni.”

5. “Os wyt wedi rhedeg gyda'r gwŷr traed, a hwythau'n dy flino,pa fodd y cystedli â meirch?Ac os wyt yn baglu mewn gwlad rwydd,pa fodd y llwyddi yng ngwlad wyllt yr Iorddonen?”

6. “Oherwydd y mae hyd yn oed dy dylwyth a'th deulu dy hun wedi dy dwyllo; buont yn galw'n daer ar dy ôl; paid â'u coelio, er iddynt ddweud geiriau teg wrthyt.”

7. “Gadewais fy nhŷ, rhois heibio fy nhreftadaeth,rhois anwylyd fy nghalon yn llaw ei gelynion.

8. Aeth fy nhreftadaeth yn fy ngolwg fel llew yn y coed;y mae'n codi ei llais yn f'erbyn; am hynny yr wyf yn ei chasáu.

9. Onid yw fy nhreftadaeth i mi fel aderyn brith,a'r adar yn ymgasglu yn ei erbyn?Casglwch holl fwystfilod y maes, a'u dwyn i fwyta.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 12