Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 12:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am fy holl gymdogion drwg, sy'n ymyrryd â'r etifeddiaeth a roddais i'm pobl Israel i'w meddiannu: “Rwyf am eu diwreiddio o'u tir, a thynnu tŷ Jwda o'u plith.

15. Ac yna, wedi i mi eu diwreiddio, fe drugarhaf wrthynt drachefn, a'u hadfer bob un i'w etifeddiaeth a'i dir.

16. Os dysgant yn drwyadl ffyrdd fy mhobl, a thyngu i'm henw, ‘Byw yw'r ARGLWYDD’, fel y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal, yna sefydlir hwy yng nghanol fy mhobl.

17. Ond os na wrandawant, yna'n sicr fe ddiwreiddiaf a llwyr ddinistrio'r genedl honno,” medd yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 12