Hen Destament

Testament Newydd

Jeremeia 11:3-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. a dweud wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw Israel: Melltith ar y sawl na wrendy ar eiriau'r cyfamod hwn,

4. a orchmynnais i'ch hynafiaid y dydd y dygais hwy allan o'r Aifft, o'r ffwrnais haearn, a dweud, “Gwrandewch arnaf, a gwnewch yn unol â'r hyn a orchmynnaf i chwi; a byddwch yn bobl i mi, a byddaf finnau'n Dduw i chwi.”

5. Fel hyn y gwireddir y llw a dyngais i'ch hynafiaid, i roi iddynt wlad yn llifeirio o laeth a mêl, fel y mae heddiw.’ ” Atebais innau, “Amen, ARGLWYDD.”

6. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cyhoedda'r holl eiriau hyn yn ninasoedd Jwda ac yn heolydd Jerwsalem, a dywed, ‘Clywch eiriau'r cyfamod hwn, a'u gwneud.

7. Oherwydd rhybuddiais eich hynafiaid o'r dydd y dygais hwy o'r Aifft hyd y dydd hwn; rhybuddiais hwy yn ddifrifol, a dweud, “Gwrandewch arnaf.”

8. Ond ni wrandawsant, nac estyn clust i glywed, ond rhodiodd pob un yn ôl ystyfnigrwydd ei galon ddrygionus. Felly dygais arnynt holl eiriau'r cyfamod hwn y gorchmynnais iddynt ei wneud ond na wnaethant.’ ”

9. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cafwyd cynllwyn ymhlith pobl Jwda a thrigolion Jerwsalem.

10. Troesant yn ôl at ddrygioni eu hynafiaid gynt pan wrthodent wrando fy ngeiriau. Aethant ar ôl duwiau eraill i'w gwasanaethu, a thorrodd tŷ Israel a thŷ Jwda fy nghyfamod, a wneuthum â'u hynafiaid.

11. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Rwyf am ddwyn drwg arnynt na allant ei osgoi; a gwaeddant arnaf, ond ni wrandawaf.

12. Yna fe â dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem i weiddi ar y duwiau yr arferent arogldarthu iddynt, ond yn sicr ni allant hwy eu gwaredu yn amser eu drygfyd.

13. Yn wir, y mae dy dduwiau mor aml â'th ddinasoedd, O Jwda, ac wrth nifer heolydd Jerwsalem codasoch allorau er cywilydd, allorau i arogldarthu i Baal.”

14. “Ond amdanat ti, paid â gweddïo dros y bobl hyn, na chodi cri na gweddi, oherwydd ni fynnaf wrando pan alwant arnaf yn ystod eu drygfyd.”

15. “Beth sydd a wnelo f'anwylyd â'm tŷ,a hithau'n cyflawni gweithredoedd ysgeler?A all llwon, neu gig sanctaidd, droi dy ddinistr heibio,fel y gelli lawenychu?

16. Olewydden ddeiliog deg a ffrwythlon y galwodd yr ARGLWYDD di;ond â thrwst cynnwrf mawr fe gyneua dân ynddi,ac ysir ei changau.”

Darllenwch bennod gyflawn Jeremeia 11