Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 9:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Paid â llawenychu, Israel.Paid â gorfoleddu fel y bobloedd;canys puteiniaist a gadael dy Dduw,ceraist am dâl ar bob llawr dyrnu.

2. Ni fydd llawr dyrnu a gwinwryf yn eu porthi hwy;bydd y gwin newydd yn eu siomi.

3. Nid arhosant yn nhir yr ARGLWYDD;ond dychwel Effraim i'r Aifft,a bwytânt beth aflan yn Asyria.

4. Ni thywalltant win yn offrwm i'r ARGLWYDD,ac ni fodlonir ef â'u haberthau;byddant iddynt fel bara galarwyr,sy'n halogi pawb sy'n ei fwyta.Canys at eu hangen eu hunain y bydd eu bara,ac ni ddaw i dŷ'r ARGLWYDD.

5. Beth a wnewch ar ddydd yr ŵyl sefydlog,ar ddydd uchel ŵyl yr ARGLWYDD?

6. Canys wele, ffoant rhag dinistr;bydd yr Aifft yn eu casglu,a Memffis yn eu claddu;bydd danadl yn meddiannu eu trysorau arian,a drain fydd yn eu pebyll.

7. Daeth dyddiau cosbi,dyddiau i dalu'r pwyth,a darostyngir Israel.“Ffŵl yw'r proffwyd,gwallgof yw gŵr yr ysbryd.”O achos dy ddrygioni mawrbydd dy elyniaeth yn fawr.

8. Y mae'r proffwyd yn wyliwr i Effraim, pobl fy Nuw,ond y mae magl heliwr ar ei holl ffyrdda gelyniaeth yn nhŷ ei Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 9