7. “Canys y maent yn hau gwynt,ac yn medi corwynt.Y mae'r corsennau ŷd heb rawn,ni rônt flawd;pe rhoent, estroniaid a'i llyncai.
8. Llyncwyd Israel;y mae eisoes ymysg y cenhedloeddfel llestr diwerth.
9. Aethant i fyny at Asyria,fel asyn gwyllt ar ddisberod.Bargeiniodd Effraim am gariadon;
10. er iddynt fargeinio ymysg y cenhedloedd,fe'u casglaf yn awr,wedi iddynt am ychydig wingo dan y baich, yn frenin a thywysogion.
11. “Amlhaodd Effraim allorau;ond aethant iddo yn allorau i bechu.
12. Er i mi ysgrifennu llawer o ddeddfau,fe'u hystyrir fel peth dieithr.
13. Carant aberthau;aberthant gig a'i fwyta;ond nid yw'r ARGLWYDD yn fodlon arnynt.Yn awr fe gofia eu drygioni,a chosbi eu pechodau;dychwelant i'r Aifft.
14. Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr,ac adeiladodd balasau;lluosogodd Jwda ddinasoedd caerog;ond anfonaf dân ar ei ddinasoeddac fe ysa ei amddiffynfeydd.”