5. Ar ddydd gŵyl ein brenin clafychodd y tywysogion gan effaith gwin;estynnodd yntau ei law gyda'r gwatwarwyr.
6. Fel ffwrn y mae eu calon yn llosgi gan ddichell;ar hyd y nos bydd eu dicter yn mud losgi;yn y bore bydd yn cynnau fel fflamau tân.
7. Y mae pawb ohonynt yn boeth fel ffwrn, ac ysant eu barnwyr;syrthiodd eu holl frenhinoedd, ac ni eilw yr un ohonynt arnaf.”
8. “Y mae Effraim wedi ymgymysgu â'r cenhedloedd;y mae Effraim fel teisen heb ei throi.
9. Y mae estroniaid yn ysu ei nerth, ac yntau heb wybod;lledodd penwynni drosto, ac yntau heb wybod.
10. Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn;eto ni ddychwelant at yr ARGLWYDD eu Duw,ac ni cheisiant ef, er hyn i gyd.
11. “Y mae Effraim fel colomen,yn ffôl a diddeall;galwant ar yr Aifft, ânt i Asyria.
12. Fel yr ânt, lledaf fy rhwyd drostynt,a'u dwyn i lawr fel adar yr awyr;fe'u cosbaf fel rhybudd cyhoeddus.
13. Gwae hwy am grwydro oddi wrthyf!Distryw arnynt am wrthryfela yn f'erbyn!Gwaredwn hwy, ond dywedant gelwydd amdanaf.