Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 4:2-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. ond tyngu a chelwydda, lladd a lladrata,godinebu a threisio, a lladd yn dilyn lladd.

3. Am hynny, galara'r wlad, nycha'i holl drigolion;dygir ymaith anifeiliaid y maes,adar yr awyr hefyd a physgod y môr.

4. “Peidied neb ag ymryson, ac na chyhudded neb;y mae fy achos yn dy erbyn di, offeiriad.

5. Yr wyt yn baglu liw dydd,a syrth y proffwyd hefyd gyda thi yn y nos.Dinistriaf dy fam;

6. difethir fy mhobl o eisiau gwybodaeth;am i ti wrthod gwybodaeth y gwrthodaf di yn offeiriad imi;am i ti anghofio cyfraith dy Dduw yr anghofiaf finnau dy blant.

7. “Fel yr amlhânt, mwy y pechant yn f'erbyn;trof eu gogoniant yn warth.

8. Bwytânt bechod fy mhobl,ac estyn eu safn at eu drygioni.

9. Bydd y bobl fel yr offeiriad;fe'u cosbaf am eu ffyrdd a dial arnynt am eu gweithredoedd.

10. Bwytânt, ond heb eu digoni,puteiniant, ond heb amlhau,am iddynt ddiystyru yr ARGLWYDD.

11. “Y mae puteindra, gwin a gwin newyddyn dwyn ymaith y deall.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 4