Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 4:13-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Y maent yn aberthu ar bennau'r mynyddoedd,ac yn offrymu ar y bryniau,o dan y dderwen, y boplysen a'r terebintham fod eu cysgod yn dda.“Am hynny, y mae eich merched yn puteinioa'ch merched-yng-nghyfraith yn godinebu.

14. Ni chosbaf eich merched pan buteiniant,na'ch merched-yng-nghyfraith pan odinebant,oherwydd y mae'r dynion yn troi at buteiniaidac yn aberthu gyda phuteiniaid y cysegr.Pobl heb ddeall, fe'u difethir.

15. “Er i ti buteinio, Israel, na fydded Jwda'n euog.Peidiwch â mynd i Gilgal, nac i fyny i Beth-afen,a pheidiwch â thyngu, ‘Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw.’

16. Fel heffer anhydrin y mae Israel yn anodd ei thrin;a all yr ARGLWYDD yn awr eu bwydo fel oen mewn porfa?

17. “Glynodd Effraim wrth eilunod; gadawer iddo.

18. Cwmni o feddwon wedi ymollwng i buteindra!Syrthiodd ei arweinwyr mewn cariad â gwarth.

19. Clymodd y gwynt hwy yn ei adenydd,a chywilyddiant oherwydd eu haberthau.”

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 4