Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 2:8-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Ond ni ŵyr hi mai myfi a roddodd iddi ŷd a gwin ac olew,ac amlhau iddi arian ac aur, pethau a roesant hwy i Baal.

9. Felly, cymeraf yn ôl fy ŷd yn ei bryd a'm gwin yn ei dymor;dygaf ymaith fy ngwlân a'm llin, a guddiai ei noethni.

10. Yn awr, dinoethaf ei gwarth gerbron ei chariadon,ac ni fyn yr un ohonynt ei chipio o'm llaw.

11. Rhof derfyn ar ei holl lawenydd,ei gwyliau, ei newydd-loerau, ei Sabothau a'i gwyliau sefydlog.

12. Difethaf ei gwinwydd a'i ffigyswydd, y dywedodd amdanynt,‘Dyma fy nhâl, a roes fy nghariadon i mi.’Gwnaf hwy'n goedwig, a bydd yr anifeiliaid gwylltion yn eu difa.

13. Cosbaf hi am ddyddiau gŵyl y Baalim, pan losgodd arogldarth iddynt,a gwisgo'i modrwy a'i haddurn,a mynd ar ôl ei chariadon a'm hanghofio i,” medd yr ARGLWYDD.

14. “Am hynny, wele, fe'i denaf;af â hi i'r anialwch, a siarad yn dyner wrthi.

15. Rhof iddi yno ei gwinllannoedd,a bydd dyffryn Achor yn ddrws gobaith.Yno fe ymetyb hi fel yn nyddiau ei hieuenctid,fel yn y dydd y daeth i fyny o wlad yr Aifft.”

16. “ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD, gelwi fi ‘Fy ngŵr’, ac ni'm gelwi mwyach ‘Fy Baal’;

17. symudaf ymaith enwau'r Baalim o'i genau, ac ni chofir hwy mwy wrth eu henwau.

18. Yn y dydd hwnnw gwnaf i ti gyfamod â'r anifeiliaid gwylltion, ac adar yr awyr ac ymlusgiaid y ddaear; symudaf o'r tir y bwa, y cleddyf, a rhyfel, a gwnaf i ti orffwyso mewn diogelwch.

19. Fe'th ddyweddïaf â mi fy hun dros byth; fe'th ddyweddïaf â mi mewn cyfiawnder a barn, mewn cariad a thrugaredd.

20. Fe'th ddyweddïaf â mi mewn ffyddlondeb, a byddi'n adnabod yr ARGLWYDD.”

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 2