Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 2:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Fe ymlid ei chariadon heb eu dal,fe'u cais heb eu cael;yna dywed, ‘Dychwelaf at y gŵr oedd gennyf,gan ei bod yn well arnaf y pryd hwnnw nag yn awr.’

8. Ond ni ŵyr hi mai myfi a roddodd iddi ŷd a gwin ac olew,ac amlhau iddi arian ac aur, pethau a roesant hwy i Baal.

9. Felly, cymeraf yn ôl fy ŷd yn ei bryd a'm gwin yn ei dymor;dygaf ymaith fy ngwlân a'm llin, a guddiai ei noethni.

10. Yn awr, dinoethaf ei gwarth gerbron ei chariadon,ac ni fyn yr un ohonynt ei chipio o'm llaw.

11. Rhof derfyn ar ei holl lawenydd,ei gwyliau, ei newydd-loerau, ei Sabothau a'i gwyliau sefydlog.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 2