Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 2:14-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. “Am hynny, wele, fe'i denaf;af â hi i'r anialwch, a siarad yn dyner wrthi.

15. Rhof iddi yno ei gwinllannoedd,a bydd dyffryn Achor yn ddrws gobaith.Yno fe ymetyb hi fel yn nyddiau ei hieuenctid,fel yn y dydd y daeth i fyny o wlad yr Aifft.”

16. “ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD, gelwi fi ‘Fy ngŵr’, ac ni'm gelwi mwyach ‘Fy Baal’;

17. symudaf ymaith enwau'r Baalim o'i genau, ac ni chofir hwy mwy wrth eu henwau.

18. Yn y dydd hwnnw gwnaf i ti gyfamod â'r anifeiliaid gwylltion, ac adar yr awyr ac ymlusgiaid y ddaear; symudaf o'r tir y bwa, y cleddyf, a rhyfel, a gwnaf i ti orffwyso mewn diogelwch.

19. Fe'th ddyweddïaf â mi fy hun dros byth; fe'th ddyweddïaf â mi mewn cyfiawnder a barn, mewn cariad a thrugaredd.

20. Fe'th ddyweddïaf â mi mewn ffyddlondeb, a byddi'n adnabod yr ARGLWYDD.”

21. “ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD,‘atebaf y nef, ac etyb hithau y ddaear;

22. etyb y ddaear yr ŷd, y gwin a'r olew,ac atebant hwythau Jesreel;

23. ac fe'i heuaf i mi fy hun yn y tir.Gwnaf drugaredd â Lo-ruhama;dywedaf wrth Lo-ammi, “Fy-mhobl wyt ti”,a dywed yntau, “Fy Nuw”.’ ”

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 2