Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 2:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Dywedwch wrth eich brodyr, ‘Fy-mhobl’,ac wrth eich chwiorydd, ‘Cafodd-drugaredd’.

2. Plediwch â'ch mam, plediwch—onid yw'n wraig i mi,a minnau'n ŵr iddi hi?—ar iddi symud ei phuteindra o'i hwyneb,a'i godineb oddi rhwng ei bronnau.

3. Onid e, byddaf yn ei diosg yn noeth a'i gosod fel ar ddydd ei geni,a'i gwneud fel anialwch a'i gosod fel tir sych,a'i lladd â syched;

4. ni wnaf drugaredd â'i phlant,am eu bod yn blant puteindra.

5. Oherwydd i'w mam buteinio,ac i'r hon a'u cariodd ymddwyn yn waradwyddus,a dweud, ‘Af ar ôl fy nghariadon,sy'n rhoi imi fy mara a'm dŵr, fy ngwlân a'm llin, fy olew a'm diod’—

6. am hynny, caeaf ei ffordd â drain,a gosodaf rwystr rhag iddi gael ei llwybrau.

7. Fe ymlid ei chariadon heb eu dal,fe'u cais heb eu cael;yna dywed, ‘Dychwelaf at y gŵr oedd gennyf,gan ei bod yn well arnaf y pryd hwnnw nag yn awr.’

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 2