Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 14:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Byddaf fel gwlith i Israel;blodeua fel lilia lleda'i wraidd fel pren poplys.

6. Lleda'i flagur,a bydd ei brydferthwch fel yr olewydden,a'i arogl fel Lebanon.

7. Dychwelant a thrigo yn fy nghysgod;cynhyrchant ŷd,ffrwythant fel y winwydden,bydd eu harogl fel gwin Lebanon.

8. “Beth sydd a wnelo Effraim mwy ag eilunod?Myfi sydd yn ei ateb ac yn ei arwain yn gywir.Yr wyf fi fel cypreswydden ddeiliog;oddi wrthyf y daw dy ffrwyth.”

9. Pwy bynnag sydd ddoeth, dealled hyn;pwy bynnag sydd ddeallgar, gwybydded.Oherwydd y mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn gywir;rhodia'r cyfiawn ynddynt,ond meglir y drygionus ynddynt.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 14