1. Dychwel, Israel at yr ARGLWYDD dy Dduw,canys syrthiaist oherwydd dy ddrygioni.
2. Cymerwch eiriau gyda chwi,a dychwelwch at yr ARGLWYDD;dywedwch wrtho, “Maddau'r holl ddrygioni,derbyn ddaioni, a rhown i ti ffrwyth ein gwefusau.
3. Ni all Asyria ein hachub,ac ni farchogwn ar geffylau;ac wrth waith ein dwyloni ddywedwn eto, ‘Ein Duw’.Ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.”
4. “Iachâf eu hanffyddlondeb;fe'u caraf o'm bodd,oherwydd trodd fy llid oddi wrthynt.
5. Byddaf fel gwlith i Israel;blodeua fel lilia lleda'i wraidd fel pren poplys.