Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 13:14-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. “A waredaf hwy o afael Sheol?A achubaf hwy rhag angau?O angau, ble mae dy blâu?O Sheol, ble mae dy ddinistr?Cuddiwyd trugaredd oddi wrth fy llygaid.

15. “Yn wir yr oedd yn dwyn ffrwyth ymysg brodyr,ond daw dwyreinwynt, gwynt yr ARGLWYDD,yn codi o'r anialwch;â ei ffynnon yn hesb,a sychir ei bydew;dinoetha ei drysordyo'i holl ddarnau gwerthfawr.

16. Bydd Samaria yn euog,am iddi wrthryfela yn erbyn ei Duw;syrthiant wrth y cleddyf,dryllir eu rhai bychain yn chwilfriw,a rhwygir eu rhai beichiog yn agored.”

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 13