Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 13:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Ble yn awr mae dy frenin, i'th achub yn dy holl ddinasoedd,a'th farnwyr, y dywedaist amdanynt,‘Dyro inni frenin a thywysogion’?

11. Rhoddais iti frenin yn fy nig,ac fe'i dygais ymaith yn fy nghynddaredd.

12. Rhwymwyd drygioni Effraim,a storiwyd ei bechod.

13. Pan ddaw poenau esgor,am mai plentyn anghall ydyw,ni esyd ei hun yn yr amserym man yr esgor.

14. “A waredaf hwy o afael Sheol?A achubaf hwy rhag angau?O angau, ble mae dy blâu?O Sheol, ble mae dy ddinistr?Cuddiwyd trugaredd oddi wrth fy llygaid.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 13