1. Pan lefarai Effraim byddai dychryn;yr oedd yn ddyrchafedig yn Israel;ond pan bechodd gyda Baal, bu farw.
2. Ac yn awr y maent yn pechu ychwaneg;gwnânt iddynt eu hunain ddelw dawdd,eilunod cywrain o arian,y cyfan yn waith crefftwyr.“Aberthwch i'r rhai hyn,” meddant.Pobl yn cusanu lloi!
3. Felly byddant fel tarth y bore,ac fel gwlith yn codi'n gyflym,fel us yn chwyrlïo o'r llawr dyrnu,ac fel mwg trwy hollt.
4. “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,a'th ddygodd o wlad yr Aifft;nid adwaenit Dduw heblaw myfi,ac nid oedd achubydd ond myfi.
5. Gofelais amdanat yn yr anialwch,yn nhir sychder.
6. Dan fy ngofal cawsant ddigon;fe'u llanwyd, a dyrchafodd eu calon;felly yr anghofiwyd fi.
7. Minnau, byddaf fel llew iddynt;llechaf fel llewpard ar ymyl y llwybr.
8. Syrthiaf arnynt fel arth wedi colli ei chenawon,rhwygaf gnawd eu mynwes,ac yno traflyncaf hwy fel llew,fel y llarpia anifail gwyllt hwy.
9. “Pan ddinistriaf di, O Israel,pwy fydd dy gynorthwywr?