7. Y mae masnachwr a chanddo gloriannau twyllodrusyn caru gorthrymu.
8. Dywedodd Effraim, “Yn wir, rwy'n gyfoethog,ac enillais olud;yn fy holl enillion ni cheirna drygioni na phechod.”
9. “Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,a'th ddygodd o wlad yr Aifft;gwnaf iti eto drigo mewn pebyll,fel yn nyddiau'r ŵyl sefydlog.
10. “Lleferais wrth y proffwydi;ac amlheais weledigaethaua dangos gwers trwy'r proffwydi.
11. Am fod eilunod yn Gilead,pethau cwbl ddiddim;am fod aberthu teirw yn Gilgal,bydd eu hallorau fel pentyrrau cerrigar rychau'r meysydd.”
12. Ffodd Jacob i dir Aram;gwasanaethodd Israel am wraig;am wraig y cadwodd ddefaid.
13. Trwy broffwyd y dygodd yr ARGLWYDD Israel o'r Aifft,a thrwy broffwyd y cadwyd ef.
14. Cythruddodd Effraim ef yn chwerw,a bydd i'w Arglwydd ei adael yn ei euogrwydd,a throi ei waradwydd yn ôl arno.