Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 10:7-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Y mae brenin Samaria yn gyffelyb i frigyn ar wyneb dyfroedd.

8. Distrywir uchelfeydd Beth-afen, pechod Israel;tyf drain a mieri ar eu hallorau;a dywedant wrth y mynyddoedd, “Cuddiwch ni”,ac wrth y bryniau, “Syrthiwch arnom”.

9. “Er dyddiau Gibea pechaist, O Israel;safasant yno mewn gwrthryfel.Oni ddaw rhyfel arnynt yn Gibea?

10. Dof i'w cosbi,a chasglu pobloedd yn eu herbyn,pan gaethiwir hwy am eu drygioni deublyg.

11. “Heffer wedi ei thorri i mewn yw Effraim;y mae'n hoff o ddyrnu;gosodaf iau ar ei gwar deg,a rhof Effraim mewn harnais;bydd Jwda yn aredig,a Jacob yn llyfnu iddo.

12. Heuwch gyfiawnder,a byddwch yn medi ffyddlondeb;triniwch i chwi fraenar;y mae'n bryd ceisio'r ARGLWYDD,iddo ddod a glawio cyfiawnder arnoch.

13. “Buoch yn aredig drygioni,yn medi anghyfiawnder,ac yn bwyta ffrwyth celwydd.“Am iti ymddiried yn dy ffordd,ac yn nifer dy ryfelwyr,

14. fe gwyd terfysg ymysg dy bobl,a dinistrir dy holl amddiffynfeydd,fel y dinistriwyd Beth-arbel gan Salman yn nydd rhyfel,a dryllio'r fam gyda'i phlant.

15. Felly y gwneir i chwi, Bethel,oherwydd eich drygioni mawr;gyda'r wawr torrir brenin Israel i lawr.”

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 10