Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 10:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwinwydden doreithiog oedd Israel,a'i ffrwyth yr un fath â hi.Fel yr amlhaodd ei ffrwyth,amlhaodd yntau allorau;fel y daeth ei dir yn well,gwnaeth yntau ei golofnau yn well.

2. Aeth eu calon yn ffals,ac yn awr y maent yn euog.Dryllia ef eu hallorau,a difetha'u colofnau.

3. Yn awr y maent yn dweud,“Nid oes inni frenin,am nad ydym yn ofni'r ARGLWYDD,a pha beth a wnâi brenin i ni?”

4. Llefaru geiriau y maent,a gwneud cyfamod â llwon ffals.Y mae barn yn codi fel chwyn gwenwynllydyn rhychau'r maes.

5. Y mae trigolion Samaria yn crynu o achos llo Beth-afen.Y mae ei bobl yn galaru amdano,a'i eilun-offeiriaid yn wylofain amdano,am i'w ogoniant ymadael oddi wrtho.

6. Fe'i dygir ef i Asyria,yn anrheg i frenin mawr.Gwneir Effraim yn wartha chywilyddia Israel oherwydd ei eilun.

7. Y mae brenin Samaria yn gyffelyb i frigyn ar wyneb dyfroedd.

8. Distrywir uchelfeydd Beth-afen, pechod Israel;tyf drain a mieri ar eu hallorau;a dywedant wrth y mynyddoedd, “Cuddiwch ni”,ac wrth y bryniau, “Syrthiwch arnom”.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 10