7. Ond gwnaf drugaredd â thŷ Jwda, a gwaredaf hwy trwy'r ARGLWYDD eu Duw; ond ni waredaf hwy trwy'r bwa, y cleddyf, rhyfel, meirch na marchogion.”
8. Wedi iddi ddiddyfnu Lo-ruhama, beichiogodd Gomer a geni mab.
9. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Enwa ef Lo-ammi, oherwydd nid ydych yn bobl i mi, na minnau'n Dduw i chwithau.”
10. Bydd nifer plant Israel fel tywod y môr,na ellir ei fesur na'i rifo.Yn y lle y dywedwyd wrthynt, “Nid-fy-mhobl ydych”,fe ddywedir wrthynt, “Meibion y Duw byw”.
11. Cesglir ynghyd blant Jwda a phlant Israel,a gosodant iddynt un pen;dônt i fyny o'r wlad,oherwydd mawr fydd dydd Jesreel.