Hen Destament

Testament Newydd

Hosea 1:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gair yr ARGLWYDD at Hosea fab Beeri yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas, brenin Israel.

2. Dyma ddechrau geiriau'r ARGLWYDD trwy Hosea. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, “Dos, cymer iti wraig o butain, a phlant puteindra, oherwydd puteiniodd y wlad i gyd trwy gilio oddi wrth yr ARGLWYDD.”

3. Fe aeth a chymryd Gomer, merch Diblaim; beichiogodd hithau a geni mab iddo.

4. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Enwa ef Jesreel, oherwydd ymhen ychydig eto dialaf ar dŷ Jehu am waed Jesreel,

5. a rhof derfyn ar frenhiniaeth tŷ Israel. Y dydd hwnnw torraf fwa Israel yn nyffryn Jesreel.”

6. Beichiogodd Gomer eilwaith a geni merch. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, “Enwa hi Lo-ruhama, oherwydd ni wnaf drugaredd mwyach â thŷ Israel, i roi maddeuant iddynt.

7. Ond gwnaf drugaredd â thŷ Jwda, a gwaredaf hwy trwy'r ARGLWYDD eu Duw; ond ni waredaf hwy trwy'r bwa, y cleddyf, rhyfel, meirch na marchogion.”

8. Wedi iddi ddiddyfnu Lo-ruhama, beichiogodd Gomer a geni mab.

9. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Enwa ef Lo-ammi, oherwydd nid ydych yn bobl i mi, na minnau'n Dduw i chwithau.”

10. Bydd nifer plant Israel fel tywod y môr,na ellir ei fesur na'i rifo.Yn y lle y dywedwyd wrthynt, “Nid-fy-mhobl ydych”,fe ddywedir wrthynt, “Meibion y Duw byw”.

Darllenwch bennod gyflawn Hosea 1