Hen Destament

Testament Newydd

Haggai 2:9-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. “Bydd gogoniant y tŷ diwethaf hwn yn fwy na'r cyntaf,” medd ARGLWYDD y Lluoedd; “ac yn y lle hwn rhof heddwch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

10. Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis yn ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Haggai.

11. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Gofynnwch fel hyn i'r offeiriaid am gyfarwyddyd:

12. ‘Os dwg un ym mhlyg ei wisg gig wedi ei gysegru, a gadael i'r wisg gyffwrdd â bara, neu gawl, neu win, neu olew, neu unrhyw fwyd, a fyddant yn gysegredig?’ ” Atebodd yr offeiriaid, “Na fyddant.”

13. Yna dywedodd Haggai, “Os bydd rhywun sy'n halogedig oherwydd cysylltiad â chorff marw yn cyffwrdd â'r rhain, a fyddant yn halogedig?” Atebodd yr offeiriaid, “Byddant.”

14. Yna dywedodd Haggai, “ ‘Felly y mae'r bobl hyn, a'r genedl hon ger fy mron,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a hefyd holl waith eu dwylo; y mae pob offrwm a ddygant yma yn halogedig.’ ”

15. “Yn awr, ystyriwch sut y bu hyd at y dydd hwn. Cyn rhoi carreg ar garreg yn nheml yr ARGLWYDD, sut y bu?

16. Dôi un at bentwr ugain mesur, a chael deg; dôi at winwryf i dynnu hanner can mesur, a chael ugain.

17. Trewais chwi, a holl lafur eich dwylo, â malltod, llwydni a chenllysg, ac eto ni throesoch ataf,” medd yr ARGLWYDD.

18. “Yn awr ystyriwch sut y bydd o'r dydd hwn ymlaen, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, dydd gosod sylfaen teml yr ARGLWYDD; ystyriwch.

19. A fydd had eto yn yr ysgubor? A fydd y winwydden, y ffigysbren, y pomgranadwydden a'r olewydden eto heb roi dim? O'r dydd hwn ymlaen fe'ch bendithiaf.”

20. Daeth gair yr ARGLWYDD at Haggai eilwaith ar bedwerydd dydd ar hugain y mis:

Darllenwch bennod gyflawn Haggai 2