5. “ ‘yn unol â'r addewid a wneuthum i chwi pan ddaethoch allan o'r Aifft. Y mae fy ysbryd yn aros yn eich plith; peidiwch ag ofni.’ ”
6. Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Unwaith eto, ymhen ychydig, yr wyf am ysgwyd y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r sychdir,
7. ac ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd; daw trysor yr holl genhedloedd i mewn, a llanwaf y tŷ hwn â gogoniant,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
8. “Eiddof fi yr arian a'r aur,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
9. “Bydd gogoniant y tŷ diwethaf hwn yn fwy na'r cyntaf,” medd ARGLWYDD y Lluoedd; “ac yn y lle hwn rhof heddwch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
10. Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis yn ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Haggai.