Hen Destament

Testament Newydd

Haggai 1:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn ail flwyddyn y Brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, daeth gair yr ARGLWYDD trwy'r proffwyd Haggai at Sorobabel fab Salathiel, llywodraethwr Jwda, ac at Josua fab Josedec, yr archoffeiriad.

2. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Y mae'r bobl hyn yn dweud na ddaeth yr amser i adeiladu tŷ'r ARGLWYDD.”

3. A daeth gair yr ARGLWYDD trwy'r proffwyd Haggai:

4. “Ai amser yw i chwi eich hunain fyw yn eich tai moethus, a'r tŷ hwn yn adfeilion?”

Darllenwch bennod gyflawn Haggai 1