Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 8:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Cofiodd Duw am Noa a'r holl fwystfilod a'r holl anifeiliaid oedd gydag ef yn yr arch. Parodd Duw i wynt chwythu dros y ddaear, a gostyngodd y dyfroedd;

2. caewyd ffynhonnau'r dyfnder a ffenestri'r nefoedd, ac ataliwyd y glaw o'r nef.

3. Ciliodd y dyfroedd yn raddol oddi ar y ddaear, ac wedi cant a hanner o ddyddiau aeth y dyfroedd ar drai.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 8