1. Dyma lyfr cenedlaethau Adda. Pan greodd Duw bobl, gwnaeth hwy ar lun Duw.
2. Fe'u creodd yn wryw ac yn fenyw, a bendithiodd hwy; ac ar ddydd eu creu fe'u galwodd yn ddyn.
3. Bu Adda fyw am gant tri deg o flynyddoedd cyn geni mab iddo, ar ei lun a'i ddelw; a galwodd ef yn Seth.
4. Wedi geni Seth, bu Adda fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
5. Felly yr oedd oes gyfan Adda yn naw cant tri deg o flynyddoedd; yna bu farw.
6. Bu Seth fyw am gant a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Enos.
7. Ac wedi geni Enos, bu Seth fyw am wyth gant a saith o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
8. Felly yr oedd oes gyfan Seth yn naw cant a deuddeg o flynyddoedd; yna bu farw.
9. Bu Enos fyw am naw deg o flynyddoedd cyn geni iddo Cenan.
10. Ac wedi geni Cenan, bu Enos fyw am wyth gant a phymtheg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
11. Felly yr oedd oes gyfan Enos yn naw cant a phump o flynyddoedd; yna bu farw.
12. Bu Cenan fyw am saith deg o flynyddoedd cyn geni iddo Mahalalel.
13. Ac wedi geni Mahalalel, bu Cenan fyw am wyth gant pedwar deg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
14. Felly yr oedd oes gyfan Cenan yn naw cant a deg o flynyddoedd; yna bu farw.
15. Bu Mahalalel fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Jered.
16. Ac wedi geni Jered, bu Mahalalel fyw am wyth gant tri deg o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
17. Felly yr oedd oes gyfan Mahalalel yn wyth gant naw deg a phump o flynyddoedd; yna bu farw.
18. Bu Jered fyw am gant chwe deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo Enoch.
19. Ac wedi geni Enoch, bu Jered fyw am wyth gan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
20. Felly yr oedd oes gyfan Jered yn naw cant chwe deg a dwy o flynyddoedd; yna bu farw.
21. Bu Enoch fyw am chwe deg a phump o flynyddoedd cyn geni iddo Methwsela.
22. Wedi geni Methwsela, rhodiodd Enoch gyda Duw am dri chan mlynedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
23. Felly yr oedd oes gyfan Enoch yn dri chant chwe deg a phump o flynyddoedd.
24. Rhodiodd Enoch gyda Duw, ac yna nid oedd mwyach, oherwydd cymerodd Duw ef.
25. Bu Methwsela fyw am gant wyth deg a saith o flynyddoedd cyn geni iddo Lamech.
26. Ac wedi geni Lamech, bu Methwsela fyw am saith gant wyth deg a dwy o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
27. Felly yr oedd oes gyfan Methwsela yn naw cant chwe deg a naw o flynyddoedd; yna bu farw.
28. Bu Lamech fyw am gant wyth deg a dwy o flynyddoedd cyn geni iddo fab;
29. a galwodd ef yn Noa, a dweud, “Fe ddaw hwn â chysur i ni o waith a llafur ein dwylo yn y pridd a felltithiodd yr ARGLWYDD.”
30. Ac wedi geni Noa, bu Lamech fyw am bum cant naw deg a phump o flynyddoedd, a bu iddo feibion a merched eraill.
31. Felly yr oedd oes gyfan Lamech yn saith gant saith deg a saith o flynyddoedd; yna bu farw.
32. Bu Noa fyw am bum can mlynedd cyn geni iddo Sem, Cham a Jaffeth.