Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 49:25-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. trwy Dduw dy dad, sydd yn dy nerthu,trwy Dduw Hollalluog, sydd yn dy fendithioâ bendithion y nefoedd uchod,bendithion y dyfnder sy'n gorwedd isod,bendithion y bronnau a'r groth.

26. Rhagorodd bendithion dy dadar fendithion y mynyddoedd tragwyddol,ac ar haelioni'r bryniau oesol;byddant hwy ar ben Joseff,ac ar dalcen yr un a neilltuwyd ymysg ei frodyr.

27. “Y mae Benjamin yn flaidd yn llarpio,yn bwyta ysglyfaeth yn y bore,ac yn rhannu'r ysbail yn yr hwyr.”

28. Dyna ddeuddeg llwyth Israel, a dyna'r hyn a ddywedodd eu tad wrthynt wrth eu bendithio, a rhoi i bob un ei fendith.

29. Yna rhoes Jacob orchymyn iddynt a dweud, “Cesglir fi at fy mhobl. Claddwch fi gyda'm hynafiaid yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad,

30. yr ogof sydd ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, yng ngwlad Canaan. Prynodd Abraham hi gyda'r maes gan Effron yr Hethiad i gael hawl bedd.

31. Yno y claddwyd Abraham a'i wraig Sara; yno y claddwyd Isaac a'i wraig Rebeca, ac yno y cleddais i Lea.

32. Cafwyd hawl ar y maes a'r ogof sydd ynddo gan yr Hethiaid.”

33. Wedi i Jacob orffen rhoi ei orchymyn i'w feibion, tynnodd ei draed ato i'r gwely, bu farw, a chasglwyd ef at ei bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 49