21. “Y mae Nafftali yn dderwen ganghennog,yn lledu brigau teg.
22. “Y mae Joseff yn gangen ffrwythlon,cangen ffrwythlon wrth ffynnon,a'i cheinciau'n dringo dros y mur.
23. Bu'r saethwyr yn chwerw tuag ato,yn ei saethu yn llawn gelyniaeth;
24. ond parhaodd ei fwa yn gadarn,cryfhawyd ei freichiautrwy ddwylo Un Cadarn Jacob,trwy enw'r Bugail, Craig Israel;
25. trwy Dduw dy dad, sydd yn dy nerthu,trwy Dduw Hollalluog, sydd yn dy fendithioâ bendithion y nefoedd uchod,bendithion y dyfnder sy'n gorwedd isod,bendithion y bronnau a'r groth.
26. Rhagorodd bendithion dy dadar fendithion y mynyddoedd tragwyddol,ac ar haelioni'r bryniau oesol;byddant hwy ar ben Joseff,ac ar dalcen yr un a neilltuwyd ymysg ei frodyr.
27. “Y mae Benjamin yn flaidd yn llarpio,yn bwyta ysglyfaeth yn y bore,ac yn rhannu'r ysbail yn yr hwyr.”
28. Dyna ddeuddeg llwyth Israel, a dyna'r hyn a ddywedodd eu tad wrthynt wrth eu bendithio, a rhoi i bob un ei fendith.
29. Yna rhoes Jacob orchymyn iddynt a dweud, “Cesglir fi at fy mhobl. Claddwch fi gyda'm hynafiaid yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad,