12. Bydd ei lygaid yn dywyllach na gwin,a'i ddannedd yn wynnach na llaeth.
13. “Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr;bydd yn borthladd llongau,a bydd ei derfyn hyd Sidon.
14. “Y mae Issachar yn asyn cryf,yn gorweddian rhwng y corlannau;
15. pan fydd yn gweld lle da i orffwyso,ac mor hyfryd yw'r tir,fe blyga'i ysgwydd i'r baich,a dod yn gaethwas dan orfod.
16. “Bydd Dan yn barnu ei boblfel un o lwythau Israel.
17. Bydd Dan yn sarff ar y ffordd,ac yn neidr ar y llwybr,yn brathu sodlau'r marchnes i'r marchog syrthio yn wysg ei gefn.
18. “Disgwyliaf am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD!
19. “Gad, daw ysbeilwyr i'w ymlid,ond bydd ef yn eu hymlid hwy.
20. “Aser, bras fydd ei fwyd,ac fe rydd ddanteithion gweddus i frenin.
21. “Y mae Nafftali yn dderwen ganghennog,yn lledu brigau teg.
22. “Y mae Joseff yn gangen ffrwythlon,cangen ffrwythlon wrth ffynnon,a'i cheinciau'n dringo dros y mur.
23. Bu'r saethwyr yn chwerw tuag ato,yn ei saethu yn llawn gelyniaeth;
24. ond parhaodd ei fwa yn gadarn,cryfhawyd ei freichiautrwy ddwylo Un Cadarn Jacob,trwy enw'r Bugail, Craig Israel;
25. trwy Dduw dy dad, sydd yn dy nerthu,trwy Dduw Hollalluog, sydd yn dy fendithioâ bendithion y nefoedd uchod,bendithion y dyfnder sy'n gorwedd isod,bendithion y bronnau a'r groth.