Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 49:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Ni fydd y deyrnwialen yn ymadael â Jwda,na ffon y deddfwr oddi rhwng ei draed,hyd oni ddaw i Seilo;iddo ef y bydd ufudd-dod y bobloedd.

11. Bydd yn rhwymo'i ebol wrth y winwydden,a'r llwdn asyn wrth y winwydden bêr;bydd yn golchi ei wisg mewn gwin,a'i ddillad yng ngwaed grawnwin.

12. Bydd ei lygaid yn dywyllach na gwin,a'i ddannedd yn wynnach na llaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 49