Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 47:20-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Felly prynodd Joseff holl dir yr Aifft i Pharo. Gwerthodd pob un o'r Eifftiaid ei faes am fod y newyn yn drwm, ac aeth y wlad yn eiddo Pharo.

21. Ac am y bobl, fe'u gwnaeth i gyd yn gaethion, o naill gwr yr Aifft i'r llall.

22. Yr unig dir na phrynodd mohono oedd tir yr offeiriaid. Yr oedd gan yr offeiriaid gyfran wedi ei phennu gan Pharo, ac ar y gyfran a roddwyd iddynt gan Pharo yr oeddent yn byw; felly ni werthasant eu tir.

23. Yna dywedodd Joseff wrth y bobl, “Yr wyf heddiw wedi eich prynu chwi a'ch tir i Pharo. Dyma had ichwi; heuwch chwithau'r tir.

24. Pan ddaw'r cynhaeaf rhowch y bumed ran i Pharo. Cewch gadw pedair rhan o'r cnwd yn had i'r meysydd ac yn fwyd i chwi, eich teuluoedd a'ch rhai bach.”

25. Meddent hwythau, “Yr wyt wedi arbed ein bywyd. Os yw'n dderbyniol gan ein harglwydd, byddwn yn gaethion i Pharo.”

26. Felly gwnaeth Joseff hi'n ddeddf yng ngwlad yr Aifft, deddf sy'n sefyll hyd heddiw, fod y bumed ran yn eiddo i Pharo. Tir yr offeiriaid oedd yr unig dir na ddaeth yn eiddo i Pharo.

27. Arhosodd yr Israeliaid yn yr Aifft, yng ngwlad Gosen. Cawsant feddiannau ynddi, a bu iddynt gynyddu ac amlhau yn ddirfawr.

28. Bu Jacob fyw ddwy flynedd ar bymtheg yng ngwlad yr Aifft. Felly yr oedd oed llawn Jacob yn gant pedwar deg a saith.

29. Pan nesaodd diwrnod marw Israel, galwodd ei fab Joseff, ac meddai wrtho, “Os cefais unrhyw ffafr yn dy olwg, rho dy law dan fy nghlun a thynga y byddi'n deyrngar a ffyddlon imi. Paid â'm claddu yn yr Aifft,

30. ond pan orweddaf gyda'm hynafiaid, cluda fi o'r Aifft a'm claddu yn eu beddrod hwy.” Atebodd Joseff, “Mi wnaf fel yr wyt yn dymuno.”

31. Ychwanegodd Jacob, “Dos ar dy lw wrthyf.” Aeth yntau ar ei lw. Yna ymgrymodd Israel a'i bwys ar ei ffon.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 47