Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 47:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna aeth Joseff a dweud wrth Pharo, “Y mae fy nhad a'm brodyr wedi dod o wlad Canaan, gyda'u preiddiau, eu gyrroedd, a'u holl eiddo, ac y maent wedi cyrraedd gwlad Gosen.”

2. Cymerodd bump o'i frodyr a'u cyflwyno i Pharo,

3. a gofynnodd Pharo i'r brodyr, “Beth yw eich galwedigaeth?” Atebasant, “Bugeiliaid yw dy weision, fel ein tadau.”

4. Dywedasant hefyd wrth Pharo, “Yr ydym wedi dod i aros dros dro yn y wlad, gan nad oes borfa i anifeiliaid dy weision, oherwydd y mae'r newyn yn drwm yng ngwlad Canaan. Yn awr, caniatâ i'th weision gael aros yng ngwlad Gosen.”

5. Yna dywedodd Pharo wrth Joseff, “Daeth dy dad a'th frodyr atat,

6. ac y mae gwlad yr Aifft o'th flaen. Rho gartref i'th dad a'th frodyr yn y man gorau, a gad iddynt fyw yng ngwlad Gosen. Os gwyddost am wŷr medrus yn eu mysg, gosod hwy yn benbugeiliaid ar fy anifeiliaid i.”

7. Daeth Joseff â'i dad i'w gyflwyno gerbron Pharo, a bendithiodd Jacob Pharo.

8. Gofynnodd Pharo i Jacob, “Faint yw dy oed?”

9. Atebodd Jacob, “Yr wyf wedi cael ymdeithio ar y ddaear am gant tri deg o flynyddoedd. Byr a chaled fu fy ngyrfa, ac ni chyrhaeddais eto oed fy nhadau pan oeddent hwy yn fyw.”

10. Wedi i Jacob fendithio Pharo, aeth allan o'i ŵydd.

11. Yna gwnaeth Joseff gartref i'w dad a'i frodyr, a rhoes iddynt feddiant yn y rhan orau o wlad yr Aifft, yn nhir Rameses, fel y gorchmynnodd Pharo.

12. Gofalodd Joseff am fwyd i'w dad a'i frodyr, ac i holl dylwyth ei dad yn ôl yr angen.

13. Darfu'r bwyd drwy'r wlad, am fod y newyn yn drwm iawn; a nychodd gwlad yr Aifft a gwlad Canaan o achos y newyn.

14. Casglodd Joseff bob darn o arian a oedd yn yr Aifft a Chanaan yn dâl am yr ŷd a brynwyd, a daeth â'r arian i dŷ Pharo.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 47