Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 45:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Methodd Joseff ymatal yng ngŵydd ei weision, a gwaeddodd, “Gyrrwch bawb allan oddi wrthyf.” Felly nid arhosodd neb gyda Joseff pan ddatgelodd i'w frodyr pwy ydoedd.

2. Wylodd yn uchel, nes bod yr Eifftiaid a theulu Pharo yn ei glywed,

3. a dywedodd wrth ei frodyr, “Joseff wyf fi. A yw fy nhad yn dal yn fyw?” Ond ni allai ei frodyr ei ateb, gan eu bod wedi eu cynhyrfu wrth ei weld.

4. Yna meddai Joseff wrth ei frodyr, “Dewch yn nes ataf.” Wedi iddynt nesáu, dywedodd, “Myfi yw eich brawd Joseff, a werthwyd gennych i'r Aifft.

5. Yn awr, peidiwch â chyffroi na bod yn ddig wrthych eich hunain, am i chwi fy ngwerthu i'r lle hwn, oherwydd anfonodd Duw fi o'ch blaen er mwyn diogelu bywyd.

6. Bu newyn drwy'r wlad y ddwy flynedd hyn; a bydd eto bum mlynedd heb aredig na medi.

7. Anfonodd Duw fi o'ch blaen i sicrhau hil i chwi ar y ddaear, ac i gadw'n fyw o'ch plith nifer mawr o waredigion.

8. Felly nid chwi ond Duw a'm hanfonodd yma, a'm gwneud fel tad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dylwyth a llywodraethwr dros holl wlad yr Aifft.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 45