32. Oherwydd aeth dy was yn feichiau am y bachgen i'm tad, gan ddweud, ‘Os na ddychwelaf ef atat byddaf yn euog am byth yng ngolwg fy nhad.’
33. Yn awr felly, gad i'th was aros yn gaethwas i'm harglwydd yn lle'r bachgen; a gad iddo ef fynd gyda'i frodyr.
34. Oherwydd sut y gallaf fynd yn ôl at fy nhad heb y bachgen? Nid wyf am weld loes fy nhad.”