Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 44:15-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Dywedodd Joseff wrthynt, “Beth yw hyn yr ydych wedi ei wneud? Oni wyddech fod dyn fel fi yn gallu dewino?”

16. Atebodd Jwda, “Beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? Beth a lefarwn? Sut y gallwn brofi ein diniweidrwydd? Y mae Duw wedi dangos twyll dy weision. Dyma ni, a'r un yr oedd y cwpan ganddo, yn gaethion i'n harglwydd.”

17. Ond dywedodd Joseff, “Ni allaf wneud peth felly. Dim ond yr un yr oedd y cwpan ganddo a fydd yn gaethwas i mi. Cewch chwi fynd mewn heddwch at eich tad.”

18. Yna nesaodd Jwda ato, a dweud, “O f'arglwydd, caniatâ i'th was lefaru yng nghlyw f'arglwydd, a phaid â digio wrth dy was; oherwydd yr wyt ti fel Pharo.

19. Holodd f'arglwydd ei weision, ‘A oes gennych dad, neu frawd?’

20. Ac atebasom ein harglwydd, ‘Y mae gennym dad sy'n hen ŵr, a brawd bach, plentyn ei henaint. Bu farw ei frawd, ac ef yn unig sy'n aros o blant ei fam, ac y mae ei dad yn ei garu.’

21. Yna dywedaist wrth dy weision, ‘Dewch ag ef i lawr ataf imi gael ei weld.’

22. Dywedasom wrth f'arglwydd, ‘Ni all y bachgen adael ei dad, oherwydd os gwna, bydd ei dad farw.’

23. Dywedaist tithau wrth dy weision, ‘Os na ddaw eich brawd ieuengaf gyda chwi, ni chewch weld fy wyneb i eto.’

24. Aethom yn ôl at dy was ein tad, ac adrodd wrtho eiriau f'arglwydd.

25. A phan ddywedodd ein tad, ‘Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni’,

26. atebasom, ‘Ni allwn fynd. Fe awn os daw ein brawd ieuengaf gyda ni, ond ni chawn weld wyneb y dyn os na fydd ef gyda ni.’

27. A dywedodd dy was ein tad wrthym, ‘Gwyddoch i'm gwraig esgor ar ddau fab;

28. aeth un ymaith a dywedais, “Rhaid ei fod wedi ei larpio”, ac ni welais ef wedyn.

29. Os cymerwch hwn hefyd ymaith a bod niwed yn digwydd iddo, yna fe wnewch i'm penwynni ddisgyn i'r bedd mewn tristwch.’

30. Ac yn awr os dof at dy was fy nhad heb y bachgen,

31. bydd farw pan wêl na ddaeth y bachgen yn ôl, am fod einioes y ddau ynghlwm wrth ei gilydd; a bydd dy weision yn peri i benwynni dy was ein tad ddisgyn i'r bedd mewn tristwch.

32. Oherwydd aeth dy was yn feichiau am y bachgen i'm tad, gan ddweud, ‘Os na ddychwelaf ef atat byddaf yn euog am byth yng ngolwg fy nhad.’

33. Yn awr felly, gad i'th was aros yn gaethwas i'm harglwydd yn lle'r bachgen; a gad iddo ef fynd gyda'i frodyr.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 44