11. Yna tynnodd pob un ei sach i lawr ar unwaith, a'i agor.
12. Chwiliodd yntau, gan ddechrau gyda'r hynaf a gorffen gyda'r ieuengaf, a chafwyd y cwpan yn sach Benjamin.
13. Rhwygasant eu dillad, a llwythodd pob un ei asyn a dychwelyd i'r ddinas.
14. Pan ddaeth Jwda a'i frodyr i'r tŷ, yr oedd Joseff yno o hyd, a syrthiasant i lawr o'i flaen.
15. Dywedodd Joseff wrthynt, “Beth yw hyn yr ydych wedi ei wneud? Oni wyddech fod dyn fel fi yn gallu dewino?”
16. Atebodd Jwda, “Beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? Beth a lefarwn? Sut y gallwn brofi ein diniweidrwydd? Y mae Duw wedi dangos twyll dy weision. Dyma ni, a'r un yr oedd y cwpan ganddo, yn gaethion i'n harglwydd.”
17. Ond dywedodd Joseff, “Ni allaf wneud peth felly. Dim ond yr un yr oedd y cwpan ganddo a fydd yn gaethwas i mi. Cewch chwi fynd mewn heddwch at eich tad.”
18. Yna nesaodd Jwda ato, a dweud, “O f'arglwydd, caniatâ i'th was lefaru yng nghlyw f'arglwydd, a phaid â digio wrth dy was; oherwydd yr wyt ti fel Pharo.
19. Holodd f'arglwydd ei weision, ‘A oes gennych dad, neu frawd?’
20. Ac atebasom ein harglwydd, ‘Y mae gennym dad sy'n hen ŵr, a brawd bach, plentyn ei henaint. Bu farw ei frawd, ac ef yn unig sy'n aros o blant ei fam, ac y mae ei dad yn ei garu.’
21. Yna dywedaist wrth dy weision, ‘Dewch ag ef i lawr ataf imi gael ei weld.’
22. Dywedasom wrth f'arglwydd, ‘Ni all y bachgen adael ei dad, oherwydd os gwna, bydd ei dad farw.’
23. Dywedaist tithau wrth dy weision, ‘Os na ddaw eich brawd ieuengaf gyda chwi, ni chewch weld fy wyneb i eto.’
24. Aethom yn ôl at dy was ein tad, ac adrodd wrtho eiriau f'arglwydd.
25. A phan ddywedodd ein tad, ‘Ewch yn ôl i brynu ychydig o fwyd i ni’,