Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 44:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gorchmynnodd Joseff i swyddog ei dŷ, “Llanw sachau'r dynion â chymaint ag y gallant ei gario o fwyd, a rho arian pob un yng ngenau ei sach.

2. A rho fy nghwpan i, y cwpan arian, yng ngenau sach yr ieuengaf, gyda'i arian am yr ŷd.” Gwnaeth yntau fel y dywedodd Joseff.

3. Pan dorrodd y wawr, anfonwyd y dynion ymaith gyda'u hasynnod.

4. Wedi iddynt fynd ychydig bellter o'r ddinas dywedodd Joseff wrth swyddog ei dŷ, “I ffwrdd â thi ar ôl y dynion, a phan oddiweddi hwy dywed wrthynt, ‘Pam yr ydych wedi talu drwg am dda? Pam yr ydych wedi lladrata fy nghwpan arian?

5. O hwn y byddai f'arglwydd yn yfed ac yn dewino. Yr ydych wedi gwneud peth drwg.’ ”

6. Pan oddiweddodd hwy dywedodd felly wrthynt.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 44