Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 42:25-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. Gorchmynnodd Joseff lenwi eu sachau ag ŷd, a rhoi arian pob un yn ôl yn ei sach, a rhoi bwyd iddynt at y daith. Felly y gwnaed iddynt.

26. Yna codasant yr ŷd ar eu hasynnod a mynd oddi yno.

27. Pan oedd un yn agor ei sach yn y llety, i roi bwyd i'w asyn, gwelodd ei arian yng ngenau'r sach,

28. a dywedodd wrth ei frodyr, “Rhoddwyd fy arian yn ôl; y maent yma yn fy sach.” Yna daeth ofn arnynt a throesant yn grynedig at ei gilydd, a dweud, “Beth yw hyn y mae Duw wedi ei wneud i ni?”

29. Pan ddaethant at eu tad Jacob yng ngwlad Canaan, adroddasant eu holl helynt wrtho, a dweud,

30. “Siaradodd y gŵr oedd yn arglwydd y wlad yn hallt wrthym, a chymryd mai ysbiwyr oeddem.

31. Dywedasom ninnau wrtho, ‘Gwŷr gonest ydym ni, ac nid ysbiwyr.

32. Yr oeddem yn ddeuddeg brawd, meibion ein tad; bu farw un, ac y mae'r ieuengaf eto gyda'n tad yng ngwlad Canaan.’

33. Yna dywedodd arglwydd y wlad wrthym, ‘Fel hyn y caf wybod eich bod yn onest: gadewch un o'ch brodyr gyda mi, a chymerwch ŷd at angen eich teuluoedd, ac ewch ymaith.

34. Dewch â'ch brawd ieuengaf ataf, imi gael gwybod nad ysbiwyr ydych ond dynion gonest; yna rhof eich brawd ichwi, a chewch farchnata yn y wlad.’ ”

35. Pan aethant i wacáu eu sachau yr oedd cod arian pob un yn ei sach. A phan welsant hwy a'u tad y codau arian, daeth ofn arnynt,

36. a dywedodd eu tad Jacob wrthynt, “Yr ydych yn fy ngwneud yn ddi-blant; bu farw Joseff, nid yw Simeon yma, ac yr ydych am ddwyn Benjamin ymaith. Y mae pob peth yn fy erbyn.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 42