Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 42:12-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Meddai yntau wrthynt, “Na, yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad.”

13. Atebasant, “Deuddeg brawd oedd dy weision, meibion un gŵr yng ngwlad Canaan; y mae'r ieuengaf eto gyda'n tad, ond nid yw'r llall yn fyw.”

14. Ond dywedodd Joseff wrthynt, “Y gwir amdani yw mai ysbiwyr ydych.

15. Fel hyn y rhoddir prawf arnoch: cyn wired â bod Pharo'n fyw, ni chewch ymadael oni ddaw eich brawd ieuengaf yma.

16. Anfonwch un o'ch plith i gyrchu eich brawd, tra byddwch chwi yng ngharchar; felly y profir eich geiriau, i wybod a ydynt yn wir. Os nad ydynt, cyn wired â bod Pharo'n fyw, ysbiwyr ydych.”

17. A rhoddodd hwy i gyd yng ngharchar am dridiau.

18. Ar y trydydd diwrnod dywedodd Joseff wrthynt, “Fel hyn y gwnewch er mwyn ichwi gael byw, oherwydd yr wyf yn ofni Duw:

19. os ydych yn wŷr gonest, cadwer un brawd yng ngharchar, a chewch chwithau gludo ŷd at angen eich teuluoedd,

20. a dod â'ch brawd ieuengaf ataf. Felly y ceir gweld eich bod yn dweud y gwir, ac ni byddwch farw.” Dyna a wnaed.

21. Yna dywedasant wrth ei gilydd, “Yn wir, yr ydym yn haeddu cosb o achos ein brawd, am inni weld ei ofid ef pan oedd yn ymbil arnom, a gwrthod gwrando; dyna pam y daeth y gofid hwn arnom.”

22. Dywedodd Reuben, “Oni ddywedais wrthych, ‘Peidiwch â gwneud cam â'r bachgen’? Ond ni wrandawsoch, ac yn awr rhaid ateb am ei waed.”

23. Ni wyddent fod Joseff yn eu deall, am fod cyfieithydd rhyngddynt.

24. Troes yntau oddi wrthynt i wylo. Yna daeth yn ôl a siarad â hwy, a chymerodd Simeon o'u mysg a'i rwymo o flaen eu llygaid.

25. Gorchmynnodd Joseff lenwi eu sachau ag ŷd, a rhoi arian pob un yn ôl yn ei sach, a rhoi bwyd iddynt at y daith. Felly y gwnaed iddynt.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 42