Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 40:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Trefnodd pennaeth y gwarchodwyr i Joseff ofalu amdanynt a gweini arnynt. Wedi iddynt fod yn y ddalfa am ysbaid,

5. cafodd trulliad a phobydd brenin yr Aifft, a oedd yn gaeth yn y carchar, freuddwyd yr un noson, pob un ei freuddwyd ei hun, ac i bob breuddwyd ei hystyr ei hun.

6. Pan ddaeth Joseff atynt yn y bore, ac edrych arnynt a'u gweld yn ddi-hwyl,

7. gofynnodd i swyddogion Pharo a oedd gydag ef yn y ddalfa yn nhÅ· ei feistr, “Pam y mae golwg ddigalon arnoch heddiw?”

8. Atebasant, “Cawsom freuddwydion, ac nid oes neb i'w dehongli.” Yna dywedodd Joseff wrthynt, “Onid i Dduw y perthyn dehongli? Dywedwch yn awr i mi.”

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 40