1. Wedi'r pethau hyn, troseddodd trulliad a phobydd brenin yr Aifft yn erbyn eu meistr, brenin yr Aifft.
2. Ffromodd Pharo wrth ei ddau swyddog, y pen-trulliad a'r pen-pobydd,
3. a'u rhoi yn y ddalfa yn nhÅ· pennaeth y gwarchodwyr, sef y carchar lle'r oedd Joseff yn gaeth.
4. Trefnodd pennaeth y gwarchodwyr i Joseff ofalu amdanynt a gweini arnynt. Wedi iddynt fod yn y ddalfa am ysbaid,
5. cafodd trulliad a phobydd brenin yr Aifft, a oedd yn gaeth yn y carchar, freuddwyd yr un noson, pob un ei freuddwyd ei hun, ac i bob breuddwyd ei hystyr ei hun.
6. Pan ddaeth Joseff atynt yn y bore, ac edrych arnynt a'u gweld yn ddi-hwyl,