Hen Destament

Testament Newydd

Genesis 4:6-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Cain, “Pam yr wyt wedi digio? Pam yr wyt yn wynepdrist?

7. Os gwnei yn dda, oni fyddi'n gymeradwy? Ac oni wnei yn dda, y mae pechod yn llercian wrth y drws; y mae ei wanc amdanat, ond rhaid i ti ei drechu.”

8. A dywedodd Cain wrth Abel ei frawd, “Gad inni fynd i'r maes.” A phan oeddent yn y maes, troes Cain ar Abel ei frawd, a'i ladd.

9. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Cain, “Ble mae dy frawd Abel?” Meddai yntau, “Ni wn i. Ai fi yw ceidwad fy mrawd?”

10. A dywedodd Duw, “Beth wyt wedi ei wneud? Y mae llef gwaed dy frawd yn gweiddi arnaf o'r pridd.

11. Yn awr, melltigedig fyddi gan y pridd a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law.

12. Pan fyddi'n trin y pridd, ni fydd mwyach yn rhoi ei ffrwyth iti; ffoadur a chrwydryn fyddi ar y ddaear.”

13. Yna meddai Cain wrth yr ARGLWYDD, “Y mae fy nghosb yn ormod i'w dwyn.

14. Dyma ti heddiw yn fy ngyrru ymaith o'r tir, ac fe'm cuddir o'th ŵydd; ffoadur a chrwydryn fyddaf ar y ddaear, a bydd pwy bynnag a ddaw ar fy nhraws yn fy lladd.”

15. Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Nid felly; os bydd i rywun ladd Cain, dielir arno seithwaith.” A gosododd yr ARGLWYDD nod ar Cain, rhag i neb a ddôi ar ei draws ei ladd.

16. Yna aeth Cain ymaith o ŵydd yr ARGLWYDD, a phreswylio yn nhir Nod, i'r dwyrain o Eden.

Darllenwch bennod gyflawn Genesis 4